Saturday 9 March 2013

Rasys a fan bethau


Wel, mha hi’n ddydd Sadwrn, diwrnod y chwaraeon. Abertawe ar y ffordd i ganolbarth Lloegr i cystadlu yn erbyn West Brom. Gêm mwya’ i llawer o Gogs fydd Everton yn erbyn Wigan yn Cwpan FA. Buddugoliaeth i’r ‘toffees’ r’wyf  yn rhagweld.

Myfyrdod bach ar Gareth Bale. Gôl  arall mewn chwe munud yn erbyn Inter yn ornest cynghrair Ewropa. Mae’r bachgen ar dân yn sgorio ym mhob gêm.   Dim rhyfedd bod Ladbrokes wedi lleihau'r ots arno i gael ei enwi yn PFA Chwaraewr y Flwyddyn o 2/5 i 2/7. 

Ond i fi mae fics peldroed y penwythnos drosodd ar ôl canlyniad Bangor neithiwr. Ennill wrth gwrs, o ddau gôl i ddim yn erbyn Airbus UK. 

Wrth gwrs bydd sylw cenedl ar yr Alban. Na, ddim i ddilyn geiriau diwedda Alex Salmond ar yr refferedwm holl bwysig. Na yn wir. Ond i ddilyn ein tîm cenedlaethol. Bydd hi ddim yn hawdd. Mae’r Alban yn mwy effeithiol y tymor yma na buont ers llawer i ddydd. Dwi’n poeni braidd! Ond y llef yw “C’mon Cymru.”

Ond byd rasys ceffylau bydd yn cymryd fy sylw.  I wneud hi’n rhwydd i byntwyr cadair freichiau, tipiau heddiw i gyd ar rasys C4. Cewch fflicio yn nol ac ymlaen o’r rygbi i’r rasys. Peidiwch â dweud nad wyf yn gwneud hi’n rhwydd i chwi edrych ar eich arian yn diflannu.

Wolverhampton

2:20 Solar Deity tro cynta iddi fod mewn ras more bwysig ond mae’n gwella bob ras.
2:55 Guest of Honour Ceffyl ar ei fyny a digon a le i wella 

Sandown

2:05 Edmund Kean wedi ennill pwynt i pwynt yn yr Iwerddon a dau ras glwydi
2:40 Rigagadin de Beauchene yw’r ffefryn ac bydd yr arian yn mynd i’r cyfeiriad ond Goring One bydd yn cael fy arian i
3:15 Mr Mole  ceffyl sydd wedi profi ei nerth ambell gwaith ac maer ods yn adlewechu’r ffaith felly r’wyf am fynd ar ei ol Kaslian hefyd. Mae’r ots yn well a hyfforddwr da. Cofiwch os yw’r ots yn mwy na 7/1  bob ffordd amdani ac bydd tipyn o elw
3:50 Midnight Minx Un o’r saith caseg yn yr ras heb colli ond i mi hon yw’r un.


Tri diwrnod cyn Cheltenham. Mae’r hyfforddwr Paul Nicholls wedi ennill y Cheltenham Gold Cup pedair gwaith gyda See More Business (1999), Kauto Star (2007 a 2009) a Denman (2008). Beth am y pumed tro ‘leni gyda Silviniaco Conti.

Canlyniadau
Solar Deity (1)
Guest of Honour (2)
Edmund Kean (3)
Kaslian (3) 
Y gweddill yn dal i rhedeg. Dim elw, colled o 17 ceiniog. 

Ddim yn rhy ddrwg hefo'r ceffylau ac wrth gwrs Cymru'n ennill.

Byddai yn ol yn yr wythnos gyda tips i gŵyl mawr Cheltenham. Cawn gweled as bydd petha  yn well na heddiw.





Cofiwch os na gwleidyddiaeth ydi’ch diddordeb y “The Welsh Political Almanac.” amdani. Cewch hyd iddo ar http://welshpolitics.co.uk/2013/03/the-welsh-political-almanac/

No comments:

Post a Comment