Saturday 23 March 2013

Wrecsam a'r fflat


Fel sylwebydd gwleidyddol rwy’n cael amyl i E-bost nad wyf yn cytuno o gwbl ar gynnwys. Ond ddoe cefais y canlynol gan Lywydd y Cynulliad ac rwy’n cytuno cant y cant a hi. Na chi wyrth, fi'n cytuno a gwleidydd.
Y cynnwys.
“Mae Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn gobeithio mai Clwb Pêl-droed Wrecsam a fydd yn fuddugol yng nghystadleuaeth Tlws yr FA ddydd Sul (24 Mawrth).
Bydd y Dreigiau yn chwarae yn erbyn Tref Grimsby ar yr achlysur cyntaf iddynt gyrraedd y rownd derfynol yn Wembley.
“Mae Wrecsam wedi gwneud camp aruthrol i gyrraedd y rownd derfynol,” meddai Rosemary Butler, y Llywydd.
“Mae Andy Morrell yn cael cryn lwyddiant gyda’r tîm, sydd hefyd yn gwneud ymdrech fawr i ennill cystadleuaeth y Gyngres a chael ei ddyrchafu yn ôl i’r Gynghrair Bêl-Droed.
“Mae’n dymor ardderchog i’r cefnogwyr, yn enwedig o ystyried y problemau y mae’r clwb wedi’u hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf.
“Rwyf yn hynod falch ei fod bellach yn llwyddo gryn dipyn ar y cae a hoffwn ddymuno’n dda i’r tîm yn y gêm dyngedfennol hon yn Wembley.”
Fedrwn ddim i ddweud o’n well, Rosemary a chithau o Gasnewydd hefyd. C’mon Wrecsam. 
Mae stadiwm pêl-droed Wembley bron a bod yn faes cartref i lawer o glybiau Cymraeg.  Mae lluniau’r blog heddiw cwrteisi fy nghyfaill Lynn Courtney pan aeth hi i Wembley fel sylwebydd. Hi'n darlledu ar ymweliad yr Elyrch i’r stadiwm yn ddiweddar.


Abertawe a Caerdydd yn cael seibiant gan fod hi’n benwythnos gemau rhyngwladol. Buddugoliaeth wych i Gymru neithiwr, beth fedrai ddweud ond bod hen bryd imi ddysgu Portiwgaleg.  
(llun o drydar Cyngor Bêl-droed Cymru)

Heb Bale yn yr ail hanner,  dwy gôl yn dilyn. Nid tîm un dyn yw Cymru Bachgen Caerffili Ramsey a pheniad gwych gan Robson-Kanu. Ac ymddangosiad cyntaf Jonny Williams seren y dyfodol. Mi fyddaf yn Abertawe i’w cefnogi yn erbyn Croatia Mercher nesaf. C’mon yr hogiau. Mae 'na fwy o fanylion am yr em ar y blog yma a chewch yn bapurau newydd Lloegr. Siom arnynt ond dim syndod.
Mae Bangor i fod ac ymweld â Phrestatyn ond go brin fydd na unrhyw gic, y tywydd wrth gwrs fydd yn fuddugol. Nawn ni ddim sôn am ganlyniad wythnos ddiwethaf yn erbyn TNS. Mha rhai pethau yn well eu hanghofio rhwng ffrindiau, ac yn o sydyn hefyd. 

Ac os ydych eisio rhywbeth mwy cyflym na cheffylau.  Y 'Grand Prix' ym Malaysia am dani. Y cyfan yn fyw ar Sky Sport. 


Fydd Fernando Alonso digon o foi i gipio'r wobr eto lenni? Mae'n debyg na'r tîm sydd yn medru newid teiars yn sydyn fydd ar fantais. Pam? Mae hi'n addo tri diwrnod o ddyranna a glaw trofannol. Mwy o law na Chymru? Chwiliai ddim.


Nawr am fater holl bwysig y diwrnod, pa geffyl yw bacio. Er yr holl dywydd gaeafol ga’ i gyhoeddi bod tymor yr haf wedi cyrraedd. Ok ddim yn hollol ond mae tymor rasys y fflat wedi dechrau ddoe yn Doncaster. Ond dim byd heddiw, ormod o eira. Gobeithio cawn haf llwyddiannus. Buddugoliaeth dros y bwci di'r nod. Cawn weld.


Ond yn ôl at bethau wrth law, fy newis heddiw. Dim ond Southwell sydd ar gael. Ac fel arfer rasys a welwch ar C4 ydynt. Beth amdani S4C? Beth am wasanaeth i gamblwyr Cymru?
1.25 Royal Skies
2.00 Petrol
2.35 Man of my Word
3.10 Dubai Hills
3.45 Mataajr
4.20 Bispham Green
4.50 Putin

Gwell lwc na'r tywydd, gobeithio.


Cofiwch os na gwleidyddiaeth ydi’ch diddordeb “The Welsh Political Almanac.” amdani. Cewch hyd iddo ar http://welshpolitics.co.uk/2013/03/the-welsh-political-almanac/



No comments:

Post a Comment