Saturday 6 April 2013

Y Grand National


Ras y flwyddyn. Os oes yna unrhyw ddiwrnod mae rasys ceffylau yn cyffwrdd meddwl y genedl dyma’r diwrnod. 

Anghofiwch ddyled, y sefyllfa economaidd, gwleidyddiaeth a fan pethe felly dyma ddiwrnod y “Grand National.” Mae 'na urddas hyn y nod yn y teitl. Mae rhin fath ar gemau Olympaidd, da chi yn rhannu'r profiad hefo gynulleidfa’r byd.

Mae 'na fwy yn gofyn am dip i’r ras yma, na sydd yn holi gweddill y flwyddyn. A’r ateb pob tro, mae eich siawns cystal trwy roi pin yn y papur na gwrando ar rywun fel fi am fath. Lwc lwyr yw’r ras. Dyna pam mae’r bwci mor awyddus i gael eich arian. 

Pam? Yn gyntaf mae yna deugain o geffylau yn y ras ac yn naw o’r deg blwyddyn ddiwethaf mae llai na hanner y ceffylau wedi gorffen y ras. Felly fedrith rhywbeth ddigwydd. Llawer gwaith mae’r ffefryn ar y llawr cyn diwedd y ras. 

Dyna’r bregeth drosodd.

Wel, beth amdani, ceffyl o Gymru? Y gorau ydi “Teaforthree” ond mae 'na bedwar arall, sef “Always Waining” “Mumbles Head” “Cappa Bleu” a “Saint Are.” D’oes 'na geffyl wedi ei hyfforddi yng Nghymru wedi cael buddugoliaeth ers 1905. Ond pwy a ŵyr ella dyma’r flwyddyn i newid pethe a’i Cappa Bleu sydd yn cael ei hyfforddi gan Evan Williams fydd yn newid yr ystadegau.
Beth am fynd ar ol joci ynte. Mae Ruby Walsh yn trio am ei drydydd fuddugoliaeth yn yr ras.. D’oes na dim ond un joci wedi gwneud hun o’r blaen sef Brian Fletcher are Red Rum. Dewis yr hen Ruby Walsh yn y ras – “On His Own” 
Fy hoff joci i Tony McCoy ar “Colbert Station” mi ro i geiniog neu ddau arno mae’n debyg

Cofiwch dyma'r diwrnod i facio bob ffordd.

Yn gyntaf y National 5 dewis ar joci (J) Hyfforddwr(H) a’r ods neithiwr.
1             Colbert Station (J) A P McCoy (H) T M Walsh 12/1
2             Chicago Grey (J) P Carberry (H) Gordon Elliot 12/1
3             Imperial Commander (J) Sam Twiston-Davies (H) Nigel Twiston Davies 18/1
4             Big Fella Thanks (J) Denis O’Regan (H) Tom George 33/1
5             Cappa Bleu (J) Paul Maloney (H) Evan Williams 12/1

Gweddil rasys Aintree, dau ddewis I bob ras

1.45              Up and Go/Utopia Des Bordes
2.15              Alderwood/Baily Green
2.50              Solwhit/African Gold
3.25              Battle Group/Cantlow
4.15              Colbert Station/Chicago Grey
5.10              Shotavodka/Prince of Fire


Pob lwc i bawb.

O ie mae 'na pêl-droed hefyd, Abertawe yn  ymweld a Norwich a Caerdydd i ffwrdd yn erbyn Watford sydd yn trydydd yn y tablau. Gem galed i'r ymwelwyr.. 

No comments:

Post a Comment