Saturday 18 May 2013

Trip i Newbury a Newmarket


Gornest fawr heddiw, y ferch o Abertawe Bonnie Tyler yn gystadleuaeth Eurovision. Ydi’r bwci dim yn rhoi llawer o siawns iddi 66/1 gyda Denmarc yn ffefryn 4/6 a Norwy wedyn 5/1.

Fel sylwebydd gwleidyddol mi ddylwn fedru mentro barn, gan fod y gystadleuaeth wedi ei seilio ar ragfarnau cenedlaethol  ond a bod yn onest riw yn osgoi'r cyfan. Well gen i gystadleuaeth pedwar coes nid dau.

Wel mae’r tymor pêl droed yn dod i ben gemau’r “Premier” y fory. Fe ddechreuodd tymor Abertawe yn erbyn tîm o Lundain a nawr mae’n gorffen yn yr un modd, Abertawe adref I Fulham. Y diddordeb o hun ymlaen fydd pwy fydd yn cael ei gwerthu a’i brynu, a pa hyfforddwr fydd yn gadael am well pethe. Laudrup am Real Madrid?

Heddiw mae Sianel 4 Lloegr yn ganol bwyntio ar Newbury a Newmarket. Felly beth amdani. Blwyddyn yn nol fe enillodd Frankel yn Newbury y cwestion di oes 'na seren arall o gwmpas i gymryd ei le. Os oes 'na, fe newis base “Declaration of War” sydd wedi syrthio yn yr ods trwy’r wythnos. Ond wrth gwrs mae Farhh yn y ras ac mae’n geffyl hynod gyson felly dewis rhwng y ddau.

Yn Newmarket y Coral King Charles II Stakes(listed) am 3.30 fydd yn cymryd fy sylw ar geffyl “Baltic Knight”. Fe enillodd o’r dechrau i’r diwedd y tro diwethaf oedd o allan yn Newbury. 

Dwi yn rhoi dau ddewis i bob ras. Y trwm fydd yn cael fy arian.
Pob lwc.

2.05 Newbury            Jehannedarc/Harris Tweed
2.20 Newmarket        Biographer/Kashaan
2.40 Newbury            Khawatim/Prodigaality
2.55 Newmarket        Secretinthepark/Lewisham
3.15 Newbury            Spillway/Kitten on the Run
3.30 Newmarket        Baltic Knight/Music Master
3.50 Newbury            Declaration of War/Farhh

No comments:

Post a Comment