Saturday 5 October 2013

Dewis y diwrnod


Mae Sianel Pedwar Lloegr yn ymweld â thri chwrs heddiw. Felly dyna fydd ein dewis.

Yn gyntaf  tri dewis o Newmarket. Yn y ras gyntaf rwyf am fynd am Oxsana. Yn ei ras ddiwethaf collodd o liw blewyn I Wedding ring pan yn 20/1 dwi yn credu bydd pethau yn agos eto heddiw a bydd buddugoliaeth yn dod iddi hi.

Ein hail dewis yn Newmarket(2.20) Toofi. Johnny Muragh ar y cefn, mae yn cael hwyl dda ar bethaf ac mae’r ceffyl wedi ennill ar y cwrs o’r blaen.
Y trydydd dewis yn ras 2.55 fydd Mabiait fe enillodd ei unig ras mewn tair blynedd ar y cwrs ac ar yr un pellter. Siŵr fe gallith ail wneud y gamp.

Pedwar ras Ascot yn dechrau am 2.05. Y dewis cyntaf sef Hay Chewed. Mae yn rhedeg am y tro cyntaf yn y safon yma. Ond tro diwethaf dywedodd ei joci ei bod yn geffyl o safon. Cawn weld. Ceffyl sydd wedi profi ei hun ar y lefel yma yn barod Hot streak fydd y bygwth.

Am 2.40 ROYAL EMPIRE. Keiran Fallon fydd y joci felly bydd gorau yn cael ei thynnu o’r marchogaeth. Y sialens yn dod o Gatewood sydd newydd ddod yn ôl o dymor buddugol yn Awstralia.

INTRANSIGENT yn yr 3.15. mae'r record yn dda, ond ydi’r ceffyl ddim yn hoff o redeg ar laswellt meddal.

I gloi ein hymweliad a Ascot(3.50) Ascription. Fy newis gorau am y diwrnod. Fe dynnwyd allan o Gaergrawnt gan fod y cyflyrau ddim yn iawn, mi ddylu pethau fod yn “teidi” heddiw.
Mae stabl Godolphin yn rhedeg Emirate Flyer yn Redcar fy newis yn y ras.

Cofiwch bob ffordd ar od dros 7/1.

Pob Hwyl

Newmarket 1.50 OXSANA/ Wedding Ring
Ascot 2.05 HAY CHEWED/ Hot Streak
Newmarket 2.20 TOOFI/ Oklahoma City
Ascot 2.40 ROYAL EMPIRE/ Gatewood
Newmarket 2.55 MABAIT/ Validus
Ascot 3.15 INTRANSIGENT/ Heeraat
Redcar 3.30 EMIRATE FLYER/Deeds not words
Ascot 3.50 ASCRIPTION/ Big Johnny

No comments:

Post a Comment