Saturday 26 October 2013

Dewis y dydd



West Ham fydd yn ymweld ag Abertawe. Mae tîm Allardyce  yn chwarae'r em yn hollol wahanol i Abertawe yn defnyddio’r bel hir ac yn ymosodol iawn. Fydd yn rhaid i Abertawe canolbwyntio am y 90 munud os am fuddugoliaeth.

Mae Malky Mackay yn mynd a Gaerdydd i’w hen glwb Norwich. Mae Norwich yn anodd Ei churo wrth chwarae gartref felly fydd yn em galed i Gaerdydd.

Roedd dewis Sadwrn diwethaf yn goblyn o wael, fe newidiodd y tywydd ac felly roedd y tir yn eithafol feddwl ac o ganlyniad roedd llawer i geffyl allan o’i chynefin. Gobeithio cawn well hwyl heddiw.

Mae’r 3.50 yn Doncaster yn rhoi rhiw fath o syniad o ba geffylau fydd yn hawlio sylw yn y rasys clasur flwyddyn nesaf. Yn sicr mae Aidan O’Brien wedi defnyddio'r achlysur i ddangos rhai o’i cheffylau ieuaf ac mae ei geffylau wedi ennill 3 allan o’r pedwar ras ddiwethaf.  Mae ganddo tri cheffyl yn y ras sef Buonarroti, Century a Johann Strauss. Rwyf yn tybio na Century ydi’r gorau o’r tri.

Ond fy nau ddewis i yn y ras ydi ceffyl sydd yn cael ei hyfforddi gan Richard Hannon a fydd Richard Hughes ar ei gefn, sef Chief Barker – mae yn geffyl o safon. Fy ail newis, ceffyl sydd yn cael ei hyfforddi gan Roger Varian,  Kingston Hill. Mae hwn yn haeddu sylw wedi gwneud pob dim yn iawn hyd yr hun.

Mae gweddill fy newis i isod. Cofiwch bob ffordd ar od dros 7/1. Fedrwch ei gweld ar Sianel Pedwar Lloegr.

Doncaster
2.40         Thomas Hobson/Ennistown
3.15         Steps/Take Cover
3.50         Chief Barker/Kingston Hill
Newbury
2.20         Piping Rock/Trading Profit
2.55         Prince Bishop/Quiz Mistress
3.30         Break Rank/Sam Sharp
Aintree
1.55         Karinga Dancer/Cool Baranca
3.05         Wishfull Thinking/Walkon

No comments:

Post a Comment