Wednesday 11 January 2017

Ail-lansio Jeremy Corbyn

Gyda mwyafrif o aelodau'r blaid Lafur eisio aros yn yr Undeb Ewropeaidd ond hen gadarnleoedd Llafur wedi pleidleisio i adael Ewrop mae arweinydd Llafur mewn sefyllfa anodd fel dyweded yr hen ddihareb ‘rhwng y dyn a thinau’r gwartheg.’ Ac fel mae’r polau piniwn yn dangos mae cefnogaeth i’r blaid Lafur yn isel sydd yn tan linellu'r teimlad bod Llafur wedi colli ei ffordd ac yn ansicr  i ba gyfeiriad i symud.

Fe fy Jeremy Corbyn yn crwydro’r stiwdios ac yn annerch cyfarfod yn Peterborough I geisio ennill tir i’w blaid. Roedd y cyfan yn cael ei ddisgrifio fel  “ail-lansiad” o ymgyrch Jeremy Corbyn.

Ar Ewrop roedd Corbyn yn cofleidio’r syniad o adael Ewrop.
 Dywedodd bod y Torïaid am flynyddoedd wedi cuddio heibio rheolau'r UE ar gymorth gwladol gan nad oeddent eisio ymyrryd. “Ond mae rheolau’r UE yn amyl yn rhwystro gweithredu ar gymorth i’r economi, swyddi gweddus a safonau byw.”

'Lexit' y chwith

Beth oedd yn ceisio cyflawni oedd y syniad o “Lexit” – ymadawiad asgell chwith o’r UE wedi ei sefydlu ar egwyddorion sosialaidd. Mae ceisio derbyn realiti canlyniad y refferendwm yn gwneud synnwyr ond yn sicr fydd yn cael ei ddefnyddio gan ei elynion i geisio dweud bod Corbyn yn sgeptig ar Ewrop o’r dechrau er iddo ddweud ddoe bod e wedi pleidleisio i aros yn y clwb.

Ond roedd eisio aros yn y farchnad sengl ac o ganlyniad roedd llafur mudol yn debyg i fod yn rhan o gost o aros yn y farchnad. Er hynny roedd yn fodlon derbyn y ffaith bod yna pryderon can llawer ar mewn mudo ac roedd yn “fodlon derbyn rheolaeth resymol ar mewn mudo.” Symudiad go fawr o’i  safiant ar y pwnc yn y gorffennol. Er iddo geisio chwarae i lawr y newid a mynnu bod o yn dal at ei egwyddorion gwreiddiol.

Cap ar gyflog

Ond nid Ewrop a gafodd y sylw mwyaf ond ei gynllun beiddgar sosialaidd i roi cap ar gyflog y gor-gyfaethog. Mae hyn yn sicr o fod yn boblogaidd gyda llawer iawn o bobol gyffredin sydd yn grac gydag anghydraddoldeb cyflogau.

Er bod yn ‘soundbite’ da, ond fel polisi mae’n debyg o fod yn un anodd i weithredu. Bydd yr un cwyn yn cael ei ddweud ag oedd yn cael ei ddweud am Ed Miliband bod e’n  ‘gwrth-dyheadol.’

Ond yn sicr mae e wedi llwyddo cael sylw ac mae’n rhan o’r ail brandio o Corbyn er mwyn gadael “Corbyn I fod yn Corbyn” er mwyn ennill tir yn bolau a cheisio manteisio ar y teimlad poblyddol  a gwelwyd y bleidlais Brexit ac ethol Trump tros yr Iwerydd. Amser a ddengys a fydd hun yn llwyddiannus ond bydd ei dîm mewnol yn hapus a sylw y cyfryngau a gafodd ei ymdrechion.



No comments:

Post a Comment