Monday 13 March 2017

Arian da i rhai

Ar ddiwrnod y Gyllideb fe roedd yna ddatganiad arall. Yn gyfleus iawn fe gyhoeddwyd swydd newydd George Osborne.

Tra roedd  Philip Hammond yn difyrru’r genedl gyda’i gyllideb gyntaf fe gyhoeddwyd tri chofnod newydd yn gofrestr diddordebau Aelodau Seneddol gan ei rhagflaenydd fel Canghellor.

Roedd un yn dangos bod Osborne wedi ei gyflogi fel ymgynghorydd gan gwmni  rheolaeth Blackrock, bydd yn cael ei dalu “£162,500 y chwarter am ymrwymiad o 12 diwrnod y chwarter.”

Mae hwn yn gweithio allan fel cyflog o £13,541 y diwrnod, neu £54,166 y mis neu glamp o £650,000 y flwyddyn  – am weithio un diwrnod yr wythnos. Wrth gwrs mae hwn ar ben ei gyflog  o £74,962 fel Aelod Seneddol.

Ond ydi ei threfniant gyda Blackrock ddim yn edrych yn rhy dda i gymharu â faint mae wedi cael fel ffi am ddarlithio.

Mae 'na ddau gofnod arall yn y gofrestr yn dangos bod yr AS Torri dros Tatton wedi cael  £51,082 gan gymdeithas fasnach a diwydiant Fflandrys a £15,081 gan Fanc Lloyds am siarad â hwy.

Mae hyn yn gwneud 10 araith ers cael y sac gan Theresa May Gorffennaf diwethaf.

Mae hun yn golygu ei fod wedi pocedi
£771,367 mewn ffioedd siarad am weithio 32 awr – yn golygu £24,105 yr awr.

Wel y cyfoethog sydd yn cael y pleser ar dlawd yn cael y bai, neu fel dywed yr hen ddihareb Cyfoeth, fel gelyn a ddwg ei gyrch ar y gwannaf.


No comments:

Post a Comment