Monday 24 April 2017

Ceidwadwyr ar y blaen yng Nghymru

Yn ganol torf o  rhwng 2,000 a 3,000 o ddilynwyr brwd fe ddaeth Jeremy Corbyn i Gaerdydd I ddechrau ei ymgyrch i ennill yr etholiad cyffredinol. Dyma’r arweinydd cyntaf i ddod traws clawdd Offa.

Nid hawdd oedd clywed neges arweinydd Llafur roedd y system PA yn warthus, gyda rhai aelodau Llafur yn holi bod swyddogion y blaid yn creu difrod i’w arweinydd trwy natur y trefniant.

Ond fel dywedodd Carwyn Jones mae gan y blaid Lafur “mynydd i ddringo” i ennill grym. Ac mae’r pôl piniwn diweddar yn cadarnhau barn prif weinidog Cymru.

Gobaith Corbyn yw bydd y miliynau o’r aelodau newydd sydd gan ei blaid yn  trechu ar y garreg drws. Fel fase un o gymeriadau Daniel Owen yn dweud “Scarcely believe.”

Yn ôl pôl diweddar ITV Cymru  a Phrifysgol Caerdydd mae'r Ceidwadwyr yn bell yn y blaen hefo 40%(+12), Llafur 30% (-3), Plaid Cymru 13%(d.n.), Democratiaid Rhyddfrydol 8% (-1), UKIP 6% (-7), Gwyrdd 2% a Gweddill 1% (-1). 

Os trowch yr arolwg i seddi fel mae’r Athro Roger Scully wedi ei wneud bydd yn golygu  y Ceidwadwyr i fyny 10 sedd ar yr etholiad cyffredinol diwethaf gyda 21 o seddi sydd yn ei gwneud yn blaid fwyaf Cymru am y tro cyntaf ers blynyddoedd maith. Y rheswm mwyaf, pleidleiswyr UKIP yn troi atynt.

Llafur i lawr 10 sedd i 15 a dim newid I Blaid Cymru gyda 3 a’r Rhyddfrydwyr Democratiaid yn dal hefo 1.

Y deg sedd base'r Ceidwadwyr yn ennill  base Alun a Dyfrdwy, Pen-y-bont, De Caerdydd a Phenarth, Gorllewin Caerdydd, De Clwyd , Delyn, Dwyrain Casnewydd, Gorllewin Casnewydd, Wrecsam ac Ynys Môn.


Ond o bosib mae bod yn y blaen gymaint yn mynd i gael effaith ar y rhif o seddi enillwn hwy yn y diwedd. Mae’n gwrth-sythweledol, mwyaf yn y blaen yn y polau llai o seddi enillwch yn y diwedd

Ond dyma rhai elfennau sydd o bosib yn gwneud pethe yn fwy ansicr nag mae'r Athro Scully yn dehongli.

Yn gyntaf y mwyaf byd mae’r polau piniwn yn dangos y Ceidwadwyr yn y blaen mae hun yn mynd i leihau'r nifer sydd yn mynd i droi allan i bleidleisio. Os ydy’r canlyniad yn y ‘bag’ i’r Ceidwadwyr bydd na llai yn dueddol o drafferthu i bleidleisio. Mi fedrwch weld Llafur yn dal ei gafael ar seddi mae’r polau piniwn yn dweud dylent golli am fod y nifer ddaru bleidleisio yn isel.

Mae yna lawer yn casáu Corbyn ond yn gefnogol iawn o rhai aelodau seneddol Llafur yn eu hetholaethau. Beth wnewch chi? Ethol aelod Ceidwadol neu gefnogi aelodau seneddol Llafur sydd yn wrth-Corbyn. Fawr o ddewis, pleidleisio Llafur.

Maen na grŵp arall sydd yn gweld nad yw’n beth iach i’r wlad i adael Teresa May cael eu’i ffordd a rhoi mwyafrif  mawr iddi. Byddan yn cymryd piti ar Lafur wrth weld y polau piniwn ac ar y funud ddiwethaf yn rhoi ei phleidlais i’r iddynt.

Dyna pam rhaid cymryd y canlyniad o droi arolwg barn i seddi hefo pinsiad mawr o halen.

No comments:

Post a Comment