Monday 27 March 2017

Prinder nyrsys


24,000 ydi nifer o swyddi gwag nyrsio ym Mhrydain yn ôl Coleg Brenhinol Nyrsio (RCN). Ac yn ôl yr RCN mae Brexit wedi gwneud  prinder nyrsys yn waeth.

Mae dadansoddiad gan yr RCN yn dangos llai na 200 o nyrsys o’r UE y mis yn cofrestru gyda Chyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth rhwng Medi a Rhagfyr 2016. Mae hun yn cymharu ag 800 y mis yn yr un cyfnod yn 2015.

Nid yn unig bod yna cwymp yn y recriwtio ond mae yna 2,700 o nyrsys o’r UE wedi gadael cofrestr y nyrsys yn wirfoddol.

Eglurodd Janet Davies Prif Swyddog y RCN y broblem. “Mae Llywodraeth y DU yn troi i ffwrdd y cyflenwad o nyrsys cymwysedig o gwmpas y byd ar yr union bryd mae’r gwasanaeth iechyd mewn argyfwng fel erioed o’r blaen.”

Fe scrapwyd George Osborne tra yn Ganghellor y bwrsariaethau i nyrsys dan hyfforddiant o ganlyniad roedd y ceisiadau am gyrsiau gradd nyrsio i lawr 20%.

Piti fase rhywun ddim yn addo gwario £350m ecstra yr wythnos ar y gwasanaeth iechyd fase huna yn ddigon i gyflogi 600,000 o nyrsys ychwanegol.


Monday 20 March 2017

Amser gwell i ddyfod? neu Omnishambles

“Dwi yn gwneud fy ngwaith wedi ei selio ar ffeithiau, ymchwil, data a dadansoddiad, a chynllunio gweithredol ac i ffwrdd o hun mi roddaf atebion sy’n ffeithiol ac yn gywir. Nid llinellau  sydd yn cael ei thaflu allan.”

Dyna sut dechreuodd yr ysgrifennydd Brexit David Davis wrth bwyllgor Brexit Tŷ’r Gyffredin wythnos diwethaf. Gwir dweud ar ôl yr agoriad positif yna i lawr aeth ei dystiolaeth.

Bron ar unwaith roedd rhaid I Davis cyfaddef nad oedd ei lywodraeth wedi gwneud asesiad economaidd o effaith gadael yr UE heb gael bargen ar fasnachu – er I Terresa May dweud “Fase dim bargen yn well na bargen wael.”

Ac er mewn twll, dal i gloddio y gwnaeth. Pan ofynnwyd iddo pam nag oedd yna asesiad, ei ateb “Mae’r pethe yma yn cael eu gwneud darn fel darn. Ar ôl creu'r bloc Lego, mi adeiladwn y tŷ.”

Er i ddeddf Brexit cael ei basio dywedodd y gwleidydd bydd yn cymryd dipyn hirach i weithio allan yr effaith economaidd,  “Fedra I ddim mesur ichwi'r manylion eto, mae’n bosib y medraf wneud hun pen rhyw flwyddyn.”

Pan ofynnwyd iddo eto a oedd o yn bersonol wedi gwneud asesiad o effaith gadael yr UE heb fargen, dywedodd “Mae gennyf farn eithaf clir sut bydd yn gweithio allan. Dwi jest ddim wedi ei dadansoddi eto.”

Fe aeth ymlaen i ddweud “ does ddim rhaid cael darn o bapur gyda rhif arno i gael asesiad economaidd.”

Fe drïodd cysuro'r pwyllgor drwy ddweud “ Bu imi dreulio rhan fwyaf o’m mywyd yn gweithio fel dyn busnes cyn dod i wleidyddiaeth. Yn amyl da chi’n gwybod beth sydd yn fargen dda er ichwi ddim cael y ffigyrau.”

Mae diffyg “ffeithiau, ymchwil, data a dadansoddiad, a chynllunio gweithredol” yn dweud y cwbl mi dybiwn. Mae’n debyg bod David Davis yn gweithio ar well yr hun a fegir na’r hyn a brynir.



Monday 13 March 2017

Arian da i rhai

Ar ddiwrnod y Gyllideb fe roedd yna ddatganiad arall. Yn gyfleus iawn fe gyhoeddwyd swydd newydd George Osborne.

Tra roedd  Philip Hammond yn difyrru’r genedl gyda’i gyllideb gyntaf fe gyhoeddwyd tri chofnod newydd yn gofrestr diddordebau Aelodau Seneddol gan ei rhagflaenydd fel Canghellor.

Roedd un yn dangos bod Osborne wedi ei gyflogi fel ymgynghorydd gan gwmni  rheolaeth Blackrock, bydd yn cael ei dalu “£162,500 y chwarter am ymrwymiad o 12 diwrnod y chwarter.”

Mae hwn yn gweithio allan fel cyflog o £13,541 y diwrnod, neu £54,166 y mis neu glamp o £650,000 y flwyddyn  – am weithio un diwrnod yr wythnos. Wrth gwrs mae hwn ar ben ei gyflog  o £74,962 fel Aelod Seneddol.

Ond ydi ei threfniant gyda Blackrock ddim yn edrych yn rhy dda i gymharu â faint mae wedi cael fel ffi am ddarlithio.

Mae 'na ddau gofnod arall yn y gofrestr yn dangos bod yr AS Torri dros Tatton wedi cael  £51,082 gan gymdeithas fasnach a diwydiant Fflandrys a £15,081 gan Fanc Lloyds am siarad â hwy.

Mae hyn yn gwneud 10 araith ers cael y sac gan Theresa May Gorffennaf diwethaf.

Mae hun yn golygu ei fod wedi pocedi
£771,367 mewn ffioedd siarad am weithio 32 awr – yn golygu £24,105 yr awr.

Wel y cyfoethog sydd yn cael y pleser ar dlawd yn cael y bai, neu fel dywed yr hen ddihareb Cyfoeth, fel gelyn a ddwg ei gyrch ar y gwannaf.